22.4.06

wennolied yn llangeitho

ebrill 22...

eiste dan ywen. gweld wennolied cynta'r flwyddyn.
wyn yn brefi...

Driver John Dewi Jones, Heatherdown,
RAOC Battalion yn North Africa Rhagfyr 22ain 1942 yn 23 oed

L. Sgt Thomas Jones, Plas,
East Surrey Regiment yn Tunisia, Ebrill 13eg 1943 yn 24 oed

(Corporal Jenkin Davies, Wenallt,
1st Battalion Lincolnshire Regiment yn Burma, Chwefror 16eg 1944 yn 29 oed)


mwyaf garw marw ymhell


hala i fi i feddwl am gan yma o de lloegyr

our captain cried, all hands and away tomorrow
leaving us girls behind in grief and sorrow.
what makes you go abroad, fighting for strangers
when you could stay at home, free from all dangers


you courted me a while just to deceive me
now you have gained my love, you meant o leave me
there's no trusting men, not my own brother
so girls if you would love, love one another

the drums are beating love the pipes are playing
i must be on my way no longer staying
dry off your brandy tears and leave off weeping
for happy we shall be at our next meeting

oh I'll roll you in my arms me dearest jewel
so stay at home with me and don't be cruel
she fell up on the ground like one was dying
this house was full of grief, sighing and crying


a chan siams twrfil, trelai ( ond a odd ganddo chysylltiade a tulu matthews ewenni a llangyfelach trwy mam edward williams?)

ffarwél fo i langyfelach lon
a'r merched ifenc i gyd o'r bron
fi'n mynd i drîo pa un sydd well,
p'une ngwlad y'n hunan neu'r gwletydd pell

a martsio wnes i yn y blân
nes imi ddod i dre bontfân
ac yno 'roeddent fawr eu sbort
yn listio'r gwyr at y duke of york

droies ymhen ac i ryw dy,
yr aur a'r arian odd yno'n ffri
y dryms a'r ffeiffs yn catw swn
a listo nes at y light dragoon

rôl ini martsho i lunden fry
duty caled ddath arnon ni
andlo'r dryll a'r cleddyf nôth,
y bwlets plwm a'r pwdwr pôth

ddâth despatch yn fore iawn,
ac un arall y prynhawn,
fod yr english fleet yn hwylo i mâs
a finne dros y cefnfor glas

ffarwél ynhad a'm hannwyl fam,
sy weti'n facu a'n nwyn i'r lan
yn dyner iawn ar aelwyd lân,
a chan ffarwel fo i'r merched glân

os holith neb pwy nâth y gân,
gwetwch iddynt ta merch fach lân
sydd yn gweddio nos a dydd
i'w hannwl gariad gael dod yn rhydd


cysylltu yn ymhen wedyn enwe daniel rowland llangeitho



ag evan rowlands

buodd john thomas cellan yn tynnu llunie yn llangeitho ar ei fordd i lerpwl. a oedd y folantein yn atseinio ym mhen bet fach, llangeitho? a'i wyr ath i ogledd affrica?