23.12.07

branwen bendigeidfran gwales. yscolan & adar rhiannon. manawyddan lludd belinos lugobelinos a'r fisher king

branes yw'r hen air am heidio'r brain. nid o'r castell ond o'r fan hyn welodd bendigeidvran vab llyr llonge yn dod o werddon



mulfranwen yw'r enw am y deryn yma sy'n lluaws ar ynys gwales yn sir benfro



a branwen oedd whâr bendigeidfran a fuws ar ynys gwales, ne o leia'i ben hyfryd am 80 mlyned.



nes i heilyn vab gwyn agored y drws mynna manawyddan na ddylid ei agored. dyma lun david jones 'manawyddan's glass door'



cyn hyn yr oeddent yn ôl yn harlech am gyfnod lle ganws adar rhiannon iddynt



drudwns oedd adar rhiannon. wedyn aethpwyd â pen bendigeidfran fan hyn i wynebu tua ffrainc. ma bran yn gysylltiedig a'r fisher king, bron fyd achos y lôs gas e yn ei garffed



ma'r cigfrain yno o hyd.



fe gladdws lludd fan hyn, yn ludgate. lludd oedd yn fab i beli mawr ac yn gysylltiedig mynte rhai a lugh lamhada (a thrw hwnnw i lleu llaw gyffes) a lugobelinos, ac yn frawd i bran



a beli mawr fan hyn yn billingsgate. beli mawr oedd priod dôn, mam y mor, ac yr oedd e'i hun yn gysylltiedig a belenos - duw yr haul - apollo dim llai. belinos oedd tad bran



ceir yr hanes ar lein yn sysneg fan hyn . meddwl mâs yn uchel otw i, na gyd

's da'r tiwn a ganlyn ddim byd i wneud a'r uchod onibai am yr ail elfen. ty mawr yn nhgyffunie llandyfri yw glanbran. pam enwyd y nant cyferbyn yn bran, cwestiwn arall yw hwnnw




X: 1
T:glanbran
M:2/4
L:1/8
Q:250
K:G
G/A/|B2 Bd|G>A| BG|c2 B2|AA/B/ cA|
B>A Bd|G>A BG|Ad FA|G3:||
G|F>A G>B|Ac BA|G>B A>c|Bd BG|
B>A Bd|G>A BG|Ad FA|G3:||

dyma'r ty



ma bran i fran yn rhwle